Amdanom ni

Ein pwrpas

Gadael etifeddiaeth i Gymru o gynhyrchu trydan carbon isel arloesol gyda pherchnogaeth gymunedol ystyrlon ac amgylchedd gwell.

Mae ein strategaeth ddatblygu wedi’i halinio’n dynn â’r holl bolisi cenedlaethol, rhanbarthol a lleol perthnasol, gan gyflawni amcanion polisi ar bob lefel o lywodraeth. Rydym yn ymrwymo i sicrhau perchnogaeth gymunedol ystyrlon; ymgysylltu ac ymgynghori cymunedol go iawn; ac i gyflawni prosiectau sy’n diwallu anghenion cenedlaethau’r dyfodol. Rydym yn rhagweld adeiladu cefnogaeth gref o fewn y cyhoedd i’n dull gweithredu, lleihau risg datblygu a chynyddu’r tebygolrwydd o gefnogaeth wleidyddol gref.

Mae Cymru, ynghyd â gweddill y byd, yn wynebu argyfwng hinsawdd ac natur, ac rydym yn bwriadu darparu nid yn unig trydan fforddiadwy, carbon isel i gynnal Cymru di-garbon, ond i wella cynefin a bioamrywiaeth lle bynnag y bo modd.

2nd Floor
Pier House
Pier Road
Pembroke Dock
Sir Benfro
SA72 6TR