Hiraeth Energy i bartneru gyda Magnora Offshore Wind ar gyfer datblygu prosiectau gwynt arnofiol Môr Glas a Môr Gwyrdd yng Nghymru

Cyhoeddodd datblygwr ynni adnewyddadwy Hiraeth Energy ei fod wedi cytuno ar Benawdau Telerau gyda Magnora Offshore Wind i gyd-ddatblygu prosiectau gwynt arnofio yn y Môr Celtaidd.

Mae Hiraeth Energy yn canolbwyntio ar gyflenwi ynni glân ar raddfa fawr, gyda phwyslais ar wneud y mwyaf o fanteision ei brosiectau i Gymru tra’n sicrhau cynaliadwyedd amgylcheddol. Bydd y cydweithrediad hwn gyda Magnora Offshore Wind yn galluogi’r partneriaid i fwrw ymlaen â datblygu dau brosiect gwynt arnofiol yn y Môr Celtaidd, Môr Glas a Môr Gwyrdd, gyda chyfanswm capasiti gosodedig o hyd at 700MW.

Mae Magnora Offshore Wind yn bartneriaeth rhwng Magnora a TechnipFMC, sy’n cyfuno arbenigedd datblygu prosiectau adnewyddadwy ac alltraeth helaeth Magnora â phrofiad cynhwysfawr TechnipFMC o gyflawni prosiectau alltraeth integredig mawr a darparu technolegau sy’n arwain y diwydiant.

Gyda’i gilydd mae’r partneriaid yn credu eu bod yn cyflwyno dull blaengar o ddatblygu prosiectau ynni gwynt ar y môr, a fydd yn cael effaith fwy buddiol ar gymunedau arfordirol ac i Gymru’n gyffredinol. Mae’r bartneriaeth wedi ymrwymo i alluogi cyfran sylweddol o berchnogaeth gymunedol ar brosiectau Môr Glas a Môr Gwyrdd.

Dywedodd Joseph Kidd, Partner yn Hiraeth Energy:

“Mae’r argyfyngau hinsawdd a natur yn galw am weithredu brys gan lywodraethau, rheoleiddwyr, datblygwyr a buddsoddwyr. Bydd y buddsoddiad hwn gan Magnora, arbenigwr blaenllaw ar ynni glân, yn helpu Cymru yn ei huchelgais i greu economi di-garbon, tra’n dangos yn glir fanteision perchnogaeth leol i bobl Cymru. Byddwn yn datblygu ein prosiectau yn unol ag arfer gorau mewn cynaliadwyedd, a byddwn yn gweithio’n agos gyda rhanddeiliaid i sicrhau ein bod yn gwneud y mwyaf o fanteision ein prosiectau i natur ac i bobl Cymru.”

Meddai Kristin Gjertsen, Rheolwr Gyfarwyddwr Magnora Offshore Wind:

“Rydym yn bwrw ymlaen ag ehangu ein prosiectau ynni gwynt ar y môr yn yr arfaeth, ac yn gweithredu ar gyfleoedd gyda phartneriaid cryf, ymroddedig a chymwys. Ar y cyd ag Ynni Hiraeth credwn ein bod yn cynrychioli ymagwedd flaengar at ddatblygu prosiectau gwynt ar y môr, gan greu gwerth hirdymor ym mhob cam o’r prosiect.”

Dywedodd Jess Hooper o Ynni Morol Cymru:

“Mae’r potensial ar gyfer datblygiadau gwynt arnofiol yn y Môr Celtaidd yn enfawr ac yn denu diddordeb gan ddatblygwyr ledled y byd. Mae Ynni Morol Cymru yn falch iawn bod y bartneriaeth rhwng Hiraeth Energy a Magnore Offshore Wind yn canolbwyntio mor gryf ar wneud y mwyaf o’r buddion i Gymru, ac ymrwymiad i alluogi perchnogaeth gymunedol yn ei brosiect.”